Fe soniais yn fy ngholofn bythefnos yn ol (10 Mehefin) wrth adolygu Gwyl Merthyr Rising 2015, fod grwp newydd Cian Ciaran o’r Super Furrys, a’i gariad Estelle Ios, sef y Zefur Wolves, wedi adfer fy ffydd mewn cerddoriaeth. Cymaint felly bu i mi fynd i weld y grwp yn canu am yr eilwaith mewn llai nac wythnos.

Y tro yma, Canolfan Gymdeithasol Maesgeirchen oedd y lleoliad. Rwan ta, dwi ddim yn amau byddai Maesgeirchen ei hyn yn destyn ar gyfer erthygl os am drafod cynllunio trefol a chymdeithaseg. Bydd rhaid hyn aros. Ond roedd cynnal gig gyda Zefur Wolves yn “MaesG” yn weithred oedd yn ymylu ar fod yn ‘Dada-aidd’. Dyma fynd a diwylliant at y werin bobl, boed y werin bobl isho fo neu ddim.

“Ymwelwyr diwylliannol” oedd y rhan fwyaf ohonnom yn y gynulleidfa, ambell gefnogwr i’r Super Furry’s, ambell un oedd wedi ‘clywed y buzz’ am Zefur Wolves. Roedd y werin bobl mewn cornel, arwahan, fel sydd yn digwydd yng Nghymru, un Genedl o ran rygbi a pheldroed ond gagendor enfawr o ran y diwylliant. I ddatgan yr amlwg (onibai fy mod yn gwneud cam mawr a nhw) ond go brin fod Barn, Golwg a Barddas yn cael eu byseddu yma mwy na di Radio Cymru na S4C ar eu tonfedd.

Roedd Merthyr Rising yn engraifft da o sut mae’r ‘werin bobl’ yn ymdrechu i ail berchnogi eu hanes a diwylliant ond eto, ar y nos Sadwrn pan roedd Zefur Wolves yn perfformio yn Theatr Soar, o flaen rhyw hanner cant, roedd Wetherspoons drws nesa yn gorlifo. Simon Cowell yn hytrach na Gruff Rhys.

Wrth gyrraedd Canolfan Gymdeithasol Maesgeirchen, y cwestiwn cyntaf gefais gan drefnwr y noson, oedd – “a oeddwn wedi darllen yr erthygl gan Cian yn y Guardian?”. Felly ar ol cyrraedd adre dyma chwilota ar Google a dod ar draws erthygl barn wedi ei sgwennu gan Cian yn awgrymu / herio “Pop Needs to get political again”.

Yn ei erthygl, mae Cian yn son fod y gantores Paloma Faith wedi mynd a’r colofnydd Owen Jones (Guardian) gyda hi ar daith er mwyn addysgu ei chynuleidfa am beryglon meddylfryd UKIP. O ran hanes canu protest mae Cian yn cydnabod ‘Strange Fruit’ gan Billie Holiday neu ‘A Change is Gonna Come’ gan Sam Cooke fel caneuon sydd gyda neges gref ond heb yr angen i weiddi.

O ran fy nghyfnod i fel rhywun yn ei arddegau yn ystod y 1970au, mae Cian hefyd yn cydnabod digwyddiadau ac ymgyrchoedd fel ‘Rock Against Racism’ ac artistiad fel The Clash ac Elvis Costello yn gefnogwyr brwd. Byddaf o hyd yn cyfaddef, er cymaint dylanwad Dafydd Iwan, Huw Jones ac Edward (Morris Jones nid H) arnaf, mai recordiau fel ‘Glad To Be Gay’ gan Tom Robinson a ‘Ku Kluk Klan’ gan Steel Pulse oedd mwyaf gyfrifol am roi addysg gwleidyddol i mi fel hogyn ifanc ym Mwynder Maldwyn.

Felly, er nad yw Cian yn gwneud fawr mwy na datgan yr hyn ddylia fod yn hollol amlwg, mae ei erthygl i’w ganmol yng nghanol y difaethwch difater sydd wedi lledu llawer rhy eang ymhlith pobl ifanc. Yr unig beth ar goll yn ei erthygl yw gofyn y cwestwin, pam fod y gwleidyddion (o bob plaid) mor hollol anllythrennog pan mae’n dod i siarad gyda’r etholwyr rhwng 18 a 25 oed?

I’w ganmol hefyd, mae cwestiynnu parhaol a rheolaidd Cian ar ddilysrwydd Wylfa B, chwech chi fawr o hynny gan y gwleidyddion (o unrhyw blaid). Gan obeithio felly cawn weld Cian Ciaran ar y gyfres nesa o “Pawb a’i Farn” – mae’r Pop yn ol yn wleidyddol!

‘Pop Needs To Get Political Again’ – Cian Ciarán (The Guardian)