Diffiniad ‘fanzine’ yw cylchgrawn wedi ei sgwennu gan ddilynwyr brwd, sef y ‘fan’ ac ychwanegir y gair  ‘zine’ o’r gair magazine. Yn ystod 1976 ymddangosodd y fanzines Pync cyntaf, a rhain oedd, mewn amser, i sbarduno ac ysbrydoli cyhoeddi cylchgronau tanddaearol tebyg yn y Gymraeg ar ddechrau’r 1980au. Daw’r disgrifiad ‘tanddaearol’ yn y cyd-destyn Cymraeg oherwydd natur ac ysbryd amgen y cylchgronau yma a hefyd oherwydd eu safbwynt gwrth-sefydliadol.

O ran cerddoriaeth a ffasiwn Pync, y  fanzines cyntaf oedd ‘Sniffin Glue’ dan olygyddiaeth Mark Perry a ‘London’s Outrage’ gan Jon Savage a dros y blynyddoedd oedd i ddilyn 1976, cyhoeddwyd cannoedd o gylchronau o’r fath hyd a lled y wlad. Rhaid oedd disgwyl tan y 1980au i hyn ddigwydd yn y Gymraeg.


Jon Savage a Rhys Mwyn
.

Er fod lle i ddadlau fod y symudiad Pync yn rhywbeth Llundeinig / Seisnig roedd grwpiau Cymraeg fel y Llygod Ffyrnig, Trwynau Coch a hyd yn oed Geraint Jarman wedi mabwysiadu rhai o’r agweddau ac erbyn i artistiaid fel Malcolm Neon ymddangos ddechrau’r 1980au, bron gall rhywun ddadlau mai’r ffansyn oedd y cyfrwng mwyaf addas ar gyfer y gerddoriaeth newydd yma.

Gwelwyd bwrlwm o gyhoeddi ffansyns Cymraeg drwy’r 1980au wrth i grwpiau pop Cymraeg ail ddiffinio eu hunain fel ‘grwpiau tanddaearol’ er mwyn datgan eu hannibyniaeth o’r hen Fyd Pop Cymraeg. Cylchgronau rhad wedi eu llungopio oedd y ffansyns – doedd fawr o werthiant ond roedd yr effaith yn bell gyrrhaeddol.

Un o’r ffansyns cyntaf rheoliadd yn y Gymraeg oedd ‘Amser Siocled’ dan olygyddiaeth Geraint Williams (cyn lowr) a chymeriad diddorol iawn o ardal Ystradgynlais. Bu Geraint yn gysylltiedig a grwpiau fel Crys a Trobwll yn y dyddiau cynnar a fe gyhoeddodd gaset amlgyfrannog o’r enw “Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd’ ar ei label ‘Lola’. Efallai fod y disgrifiad o daflen yn fwy addas ar gyfer ‘Amser Siocled’ ond oleiaf mor gynnar ac 1982 roedd y cyhoeddiad yma yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau ac artistiaid amgen Cymraeg.


Bu Gareth Potter o’r grwp Clustiau Cwn hefyd yn gyfrifola am ffansyn / taflen yn dwyn yr enw ‘Newyddion Afiach’ a bu dau gyfnod penodol o sgwennu gan Gareth, y cyntaf yn y cyfnod tanddaearol 1981-82 a wedyn ym mwrlwm 1987 a chyfnod ei ail grwp Traddodiad Ofnus. Mewn rhifyn a gyhoeddwyd ym mis Hydref 1987 cawn adolygiad o’r record ‘Rap Cymraeg’ gan Llwybr Llaethog – y record rap Cymraeg cyntaf erioed.


Gorwel Roberts (yn ddiweddarach aelod o’r grwp Bob Delyn) oedd golygydd ‘Dyfodol Dyddiol’ a chawn gyfuniad bler o erthyglau, rhai mewn llaw ysgrifen a’r lleill wedi eu teipio yn wael – a phopeth wedi ei lungopio mor wael nes fod y darllen bron yn amhosib ar adegau. Ond dyna oedd natur ffansins, mater o gyhoeddi barn mor sydun a mor rhad a phosib. Cawn adolygiad o ‘Daith y Carcharorion’ gyda Geraint Jarman a Maffia Mr Huws yn rhifyn Mai 1986 sydd yn byrlymu o farn di-flewyn ar dafod y golygydd. Dyna’r pwynt.

Un arall o’r ffansyns wirioneddol danddaearol oedd ‘Y Profion Dirgel’ dan olygyddiaeth Nigel Trow o Lanuwchllyn.  Yn y rhifyn cyntaf cawn erthyglau am Yr Anhrefn, Datblygu, Sgidia Newydd a Steve Eaves – sef grwpiau oedd yn dod i’r amlwg yn ystod hanner cyntaf y 1980au a cyn dyfodiad artistiaid fel Y Cyrff a Tynal Tywyll.

Safbwyntiau anarchaidd a materion fel hawliau anifeiliad oedd yn hawlio sylw ‘Profion Dirgel’ a ffansyn yn nhraddodiad fanzines Lloegr oedd hwn yn hytrach na unrhyw gysylltiad a byd cylchgronau fel Sgrech. Yn hyn o beth mae hanes a chyd-destyn cymdeithasol ffansyn fel Profion Dirgel yn bwysig iawn os am ddeall beth oedd dylanwad grwpiau anarchaidd fel Crass ar y Byd Pop Cymraeg yn yr 1980au cynnar. Hynny yw roedd grwpiau fel Crass neu Joy Division yn fwy o ddylanwad ar y grwpiau tanddaearol Cymraeg nac oedd Geraint Jarman a’r Trwynau Coch o bosib.


Tanddaearol o ran naws ac agwedd oedd “Ish” dan olygyddiaeth Iwan Trefor. Yn ei olygyddol mae Trefor yn fy nghyddo fel hyn “Ond a yw Rhys Mwyn a’i garfan yn byw mewn byd ffantasiol Sosialaidd, Sgargilaidd, Brydeinig ?”. Rhydd pawb ei farn a does dim côf gennyf i mi gael fy nghythruddo gan “Ish” ar y pryd. Dyna oedd ysbryd y cyfnod, pawb yn herio a chwestiynu a’r hyn sydd yn braf wrth ail-ymweld a’r cylchgronau yma yw fod pob un wrthi yn mynegi barn ac yn dweud hi go iawn. Fydda hyn ddim yn digwydd heddiw. Bron a bod roedd “Ish” fel ffansyn o 1986 angen herio grwpiau fel Yr Anhrefn oedd wedi ffurfio ers rhai blynyddoedd erbyn hynny. Cawn awgrym gan ‘Ish’ bod yn “hen bryd i Sion Sebon ddysgu’r fourth bloody chord”. Eto peth iach oedd hyn.

http://i1304.photobucket.com/albums/s538/link2wales/Ish%20Rhif%202_zps99ip9psn.jpg

Ymhlith y ffansyns eraill ‘tanddaearol’ a gyhoeddwyd yn ystod y 1980au roedd ‘Y Crafwr’ yn trafod creulondeb tuag at anifeiliaid a grwpiau fel Crisialau Plastig. Golygydd ‘Defaid’ oedd Huw Dylan o Ddolgellau a ffurffiodd grwp gwerin o’r un enw cyn sgwennu llyfr gwych ar feini hirion o’r enw ‘Meini Meirionnydd’ (Lolfa 2007)


Perthyn i’r cyfnod amgen / tanddaearol diweddarach oedd ‘Brwas’ ffansyn o Sir Ddinbych yn son am grwpiau fel Boff Frank Bough, Billy Clinn. Guto Pryce oedd yn cael ei gyfweld ar ran y grwp Billy Clinn a mae Guto bellach yn enwog fel basydd y Super Furry Animals a’r grwp Gulp.


Y cerddor Dyfed Edwards oedd un o olygyddion ‘Egni’ ac eto perthyn i’r cyfnod diweddarach mae’r ffansyn yma, gan roi sylw i artistiaid fel H3 a’r Tystion. Er hyn arddull ffansyn tanddaearol amrwd sydd i Egin a Brwas.

http://i1304.photobucket.com/albums/s538/link2wales/Egni_zpslbjq2l6k.jpg

Tebyg iawn yw ‘Ffansin Ymfytyn’, sydd wedi ei enwi ar ôl can gan Datblygu ac yn rhifyn 2 Chwefror 1990 cawn sylw i’r grwp U Thant o Gaerdydd.  Pat Morgan (basydd Datblygu) ar y llaw arall oedd golygydd ‘Yn Syth o’r Rhewgell’ gan roi sylw i grwpiau fel Tynal Tywyll. Roedd Pat yn sgwennu yn y cyfnod cynnar oddeutu 1985 fel roedd y grwpiau tanddaearol yn dod yn fwy amlwg.


Ffansyn ar bapur melyn oedd ‘Goucho neu Marx ?’ a gyhoeddwyd ym 1988 gyda sylw i grwpiau fel Ffa Coffi Pawb a hyd yn oed erthygl am y grwp Velvet Underground yn ogystal a’r arferol grwpiau Cymraeg.

Bu Cell Clwyd o Gymdeithas yr Iaith yn brysur cyhoeddi ffansyn dan ofal dylunio Huw Prestatyn o’r enw ‘LLmych’ neu yn ddiweddarach unrhyw anagram dan Haul o’r gair ‘Llmych’ oedd yn ddi-ystyr ta beth.  Roedd rhifyn ‘Chymll” yn canolbwyntio bron yn llwyr ar wleidyddiaeth gan wneud rhyw fath o ddatganiad drwy anwybyddu pethau mor ddibwys a grwpiau pop. A prif leisydd y grwp Elfyn Presli, sef y diweddar Bern, gafodd sylw dudalen flaen ‘Ychmll” (sef Rhifyn 7 o Llmych). Dim ond y ffansyns oedd am roi sylw i Bern yn y cyfnod yna. Heddiw byddwn yn awgrymu fod Bern yn fardd ac yn athrylith sydd fel cymaint arall, erioed wedi cael cydnabyddiaeth deilwng gan weddill y Byd Cymraeg.


Gan fod Huw yn ddylunydd proffesiynnol roedd mwy o safon a sglein i Llmych na’r ffansyns arferol.  Efallai mae cymwynas mwayf Llmych i’r Byd Pop Cymraeg oedd cyhoeddi rhifyn arbennig yn cynnwys cyfweliad estynedig gyda Dafydd Evans (mab Gwynfor) sef basydd Y Blew.  Dyma’r tro cyntaf i rhywun roi hanes y grwp arloesol hyn ar bapur. Y Blew oedd y grwp roc Cymraeg cyntaf, a hynny yn ôl ym 1967 a diddorol oedd gweld fod y grwpiau a’r ffansyns tanddaearol yn gweld y Blew fel arloeswyr a’r grwp eiconaidd colledig Cymraeg.

http://i1304.photobucket.com/albums/s538/link2wales/Blew%20flyer%201967_zpsarmthrjz.jpg

Er fod y ffansyn mewn ffasiwn drwy rhan helaeth o’r 1980au cyhoeddwyd cylchgrawn o’r enw ‘Dracht’ ym 1985. Efallai fod modd awgrymu fod Dracht yn gyfuniad o ffansyn ac arddull Sgrech – a gwleidyddiaeth ddigon tebyg i’r hyn a gafwyd yn Sgrech  oedd i olygyddiaeth Dracht. Yn Rhifyn 2 cafwyd llith olygyddol yn datgan siom fod grwpiau Cymraeg fel Maffia Mr Huws a Louis a’r Rocyrs wedi iselhau eu hunnain drwy gytuno i gefnogi grwpiau Saesneg mewn gwyl roc ym Mhen LL?n.

Yn yr un rhifyn cyhoeddwyd erthygl am Y Cyrff a gwelir adolygiad o record Dwylo Dros y Mor sydd efallai yn awgrymu fod Dracht yn ansicr iawn o pa gyfeiriad cerddorol oedd ffocws y cylchgrawn. O edrych yn ôl, dyma gylchgrawn yn nhraddodiad Sgrech oedd yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnod lle roedd pethau wedi symud ymlaen. Byr oes fu i gylchgrawn Dracht.

Tebyg iawn o ran arddull a diwyg (hynny yw wedi ei argraffu yn iawn) oedd ‘Llygredd Moesol’ dan olygyddiaeth Dewi Gwyn (aelod o’r Sefydliad a’r Anhrefn) ond fod y ffocws ar grwpiau newydd. Y Brodyr oedd ar glawr blaen yr unig rifyn o Llygredd Moesol ac ymhlith yr artistiaid oedd yn cael sylw roedd Dorcas, Anagram, Syndod, Sgidia Newydd, Drycin a Rhyw Byw – grwpiau sydd prin yn cael eu cofio heddiw.


Erbyn y 1990au roedd y ffansyn wedi gweld dyddiau gwell a gyda chyhoeddi ‘Sothach’ gwelir ymdrech i ail sefydlu’r math o broffesiynoldeb oedd yn gysylltiedig a chylchgrawn Sgrech.

Cwmni Cytgord oedd yn gyfrifol am gyhoeddi Sothach – cylchgrawn yn sicr yn nhraddodiad Sgrech, wedi ei argraffu yn iawn a mewn amser fe ddatblygodd Sothach i fod yn gylchgrawn gyda clawr lliw a phostar mewnol o rhai o ser pop y 1990au mewn lliw !

Golygydd Sothach oedd Gorwel Roberts (golygydd Dyfodol Dyddiol) ond roedd yr oes wedi newid, cyfnod y ffansyns drosodd ac efallai fod aeddfedrwydd y grwpiau a’r to newydd o grwpiau fel Y Gwefrau a’r Alarm (yn canu yn Gymraeg) yn haeddu rhywbeth gwell na phapur rhad wedi ei lungopio.

Rhywbeth llai arferol oedd gweld cyhoeddi fanzines yn yr iaith Saesneg yn canolbwyntio ar grwpiau Cymraeg a Chymreig. Cyhoeddwyd ‘Macher’ gan Dave Jones a ‘Crud’ gan Neil Crud. Dangosir cyhoeddi’r cylchgronau yma faint roedd y grwpiau tanddaearol wedi llwyddo i apelio i’r gynulleidfa di-Gymraeg – rhywbeth oedd rioed wedi digwydd hefo grwpiau Cymraeg o’r blaen.

Nodwedd arall o’r ffansyns, ac yn sicr cyhoeddiadau fel Crud a Macher oedd fod y golygyddion gyda barn bendant iawn. Dave Jones oedd golygydd Macher a roedd pawb yn gwybod nad oedd Dave yn or-hoff o’r grwp Ffa Coffi Pawb. Felly dim sylw i Ffa Coffi yn Macher a dim dadlau am y peth.

Y gwahaniaeth mawr yn ystod yr 1980au a’r 90au cynnar felly oedd fod y ffansyns yn llawer mwy tanddaearol, gwrth-sefydliadol a ffwrdd a hi tra roedd yr ymdrechion i gyhoeddi cylchgronau Pop Cymraeg yn ceisio parhau traddodiad Sgrech o greu rhywbeth a oedd yn ei hanfod yn fwy ‘poblogaidd’ ac o ganlyniad yn llawer mwy “saff”.