(review by rhys mwyn, pix by geraint lovegreen)

Wyddochi be, mae’n beth braf weithiau bod yn hollol anghywir am rhywbeth. Rhys Mwyn is wrong quote unquote.  Yn Gymraeg mae yna hen ddywediad “cael fy siomi ar yr ochr ora”  ond roedd hyn yn brofiad hollol wahanol, fel teitl y ffilm gan Owain Meredith “Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw”. Dyma adolygiad o’r Racehorses yng nghlwb 4a6 Caernarfon.  Yn syml dyma un o’r gigs gorau a perfformiadau gorau dwi di weld gan grwp Cymreig ers amser maith. Mi ddyliwn orffen yma – does dim angen dweud mwy …………..
Y bwriad yn wrieddiol oedd teithio draw i Bethesda i weld Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yn Pesda Roc Bach. Lwcus i ni beidio mentro am Bethesda achos roeddem wedi cael y noson yn anghywir. Petae ni wedi landio yn Bethesda byddem wedi gweld Rene Griffiths. Diolch byth am fod yn ddiog.

Felly draw a ni am glwb 4a6, y tro cyntaf i mi fynychu’r gig yma yn ei gartref newydd, yr hen Con Club, bellach yn Clwb Canol Dre. Digon o jocs felly am “fod wedi bod yma o’r blaen” . Venue bach iawn, braidd yn cabaret, dal tua 200, ond iawn, cwl, edrych ymlaen.

Dwi di cyfarfod Al Lewis o’r blaen, fe ddaeth draw i’r ty rhyw dro i fenthyg PA. Dyma chi Mr Nice yr SRG, nice yn yr ystyr “neis”, wyddochi “boi neis” nid fel yng nghyd-destyn Howard Marks. Mae tiwns Lewis yn ddigon dymunol – mi welais o ar y rhaglen erchyll yna oedd ar S4C Noson Calan a fo oedd y peth gorau ar y rhaglen, yn amlwg yn brofiadol yn gigio, yn gyfforddus ar lwyfan.

Felly ychydig bach yn siomedig oedd ei berfformiad i mi ar y noson hon. Roedd hanner y gynulleidfa yn mynnu siarad ar draws ei set. Bron fod rhywun yn gweiddi “shwsshhhhh” arnynt yn y cefn ond ar y llaw arall wnaeth Lewis fawr o ymdrech rhywsut i’w hennill drosodd chwaith. Dwi ddim yn siwr ar lle roedd y bai yn fan hyn, y gynulleidfa yn cau gwrando neu Lewis ddim yn eu hennill drosodd. Dwi’n gwybod ar un lefel fod yna gyfrifoldeb ar yr artist.

Roedd y trefnwyr yn son am ei gael yn ol hefo’r gynulleidfa barchus arferol (nid fod ffans Racehorses yn amharchus) ond efallai fod fwy o griw ifanc yma na’r arfer ? Mae hwn yn un anodd. Wrth siarad hefo’r trefnwyr roedd rhwyun yn 50/50 – mae’r gynulleidfa ar fai yn siarad  OND dydi Lewis ddim i weld yn ymateb i’r peth chwaith.

Roedd Al ar band wedi teithio fyny o Gaerdydd ac yn teithio adre syth ar ol y gig – tough – been there done that. Rhyfedd roedd Potter (Gareth Potter) yn y gynulleidfa a fe ddaeth draw am sgwrs gan nodi fy mod wedi “ypsetio” Dafydd James dj newydd C2. Shit, teimlo’n euog, OND a dyma’r peth – mae’n rhaid mynegi barn – dyna fy job i fel adolygydd. Ei job o fel cyflwynydd neu Al Lewis fel canwr-gyfansoddwr yw cyfathrebu. Mae nhw ar lwyfan – yn y byd cyhoeddus – tough. Dwi ddim yn beirniadu er mwyn beirniadu – ond mae’n anodd peidio mynegi barn – dwi eisiau eu mwynhau ond…….

Wrth i’r Racehorses ddod i’r llwyfan, roeddwn yn disgwyl rhywbeth hollol wahanol. Dwi di bod yn euog, yn hollol euog, ac efallai yn gywir euog am gyfnod, o’u rhoi nhw lawr fel mini-mees Euros Childs a dyma chi sioc. O’r chord cyntaf dwi’n gallu dweud fod hyn yn mynd i fod yn dda. Mae’r canwr a’r flaen y llwyfan, a di’o fawr mwy na hances bocad o lwyfan ond rhywsut mae Meilyr yn llwyddo i berfformio, ei freichaiu a’i goesau hir bron yn ei gysylltu a’r nenfwd.

Dyma chi gyfuniad o Morrissey (yn yr ystyr positif) a’r Jagger ifanc, bron yn  rhywbeth asexual be bynnag di hynny yn Gymraeg – bron mor ddel a Bowie mewn drag – mae’n hawlio sylw pob copa walltog yn yr ystafell a hynny o fewn llai na thair eiliad.

Brilliant, mae hyn fel gig go iawn, mae pawb yn edrych. Mae cynulleidfa arferol 4a6, criw Cymraeg Caernarfon, rebals gynt, fwy parchus heddiw, hen stejars Cymdeithas yr Iaith a’r SRG wedi arfer hefo setiau acwstig ond mae rhywun yn gallu gweld fod y rhan fwyaf ohonynt (yn union fel fi) wrth eu bodd hefo hyn. Dyma ail fyw ein ieuenctyd. Fedra ni byth fod yn ffans go iawn o’r Racehorses – da ni bell rhy hen – ond da ni am fwynhau y band am yr un noson yma – un ffling olaf cyn troi’n ganol oed …..


Yr ail sioc i mi oedd fod hyn yn gerddorol yn syth allan o wers lyfr Simon Reynolds ar y cyfnod ol-punk “Rip it up and Start Again ……Post-Punk 1978-84”. Mae’r Racehorses wedi datblygu’n aruthrol. Fel uned, mae’r band yn dyn fel dwni’m be, a mae hyd yn oed y rhannu offerynnau yn gweithio. Pob aelod o’r band yn gwybod ei job ac yn gwneud ei job. Mae Dylan yn eitha unsung hero ddywedwn i, yn feistar ar ei oefferynnau, yn llwyr ymroi, a wedyn Gwion mor solat ar y drums. Does dim pwynt cael band os na di’r dryms yn solat – job done !

Y peth arall wirioneddol dda am ddatblygiad y band yw’r elefen “tribal” sydd wedi dechrau ymddangos yn y caneuon – mwy rythmig, llai twee indie  / usual Welsh suspects influence – yn sicr mae swn newydd y Racehorses yn gam mawr enfawr o’r rut cerddorol ail adroddus mae Childs a Gruff Rhys yn tueddi i barhau o’u dewis  ynddo.

Felly o’r Human League neu Soft Cell cynnar, gyda sbeisys o Morrissey – reit trwadd at ganeuon fel “Hanes Cymru” a’r gan arall lle mae Meilyr oddiar y llwyfan yn curo’r drwm bass yng nghanol y gynulleidfa – mae na swn newydd yma – un llwythol (tribal) – ol-punk (Post-Punk) ond hefo tiwns pop. Dyma rhywbeth fethodd y Furry’s i’w wneud – camu dros y barricades eu dylanwadau – iawn licio’r Beach Boys neu bwy bynnag ond peidio bod mor amlwg am y peth.

Petae Racehorses yn cael eu gwisgo mewn siwts, mi ffyda nhw yn dal i edrych fel band rock’n roll mewn siwts, mi fydda Al Lewis a’i gitarydd yn edrych fatha bank clerks – ella mae dyna’r gwahaniaeth mawr. Mae yna fwy i’r peth na caneuon da, rhaid cael gwalltiau da, delwedd dda, agwedd dda ….. ond yn bwysicach byth pan da chi’n hitio’r llwyfan yna – mae’r rhaid rhoi sioe ymlaen.

Os caf orffen gyda “shite-joke” mae’r band yma rhai caeau / furlongs o flaen pawb arall ar hyn o bryd – mae nhw di deall be di pop, cerddoriaeth pop a diwylliant pop. Racehorses 1 Rhys Mwyn 0. Fedrai’m ond syrthio ar fy mai am fod mor rong am y band yma !