TEITL/TITLE – DARLUNIAU OGOF O’R UNFED GANRIF AR HUGAIN  E.P       
ARTIST – DATBLYGU                                                                                                 
FFORMAT  – RECORD 7”  VINYL  /  D L                                                                         
CAT NO – ANKST 132                                                                                                    
DYDDIAD RHYDDHAU / REL DATE – TACH/NOV 26TH 2012  / WWW.ANKST.NET

Mae 2012 yn gweld DATBLYGU yn dathlu tri deg mlynedd ers ffurfio ( anghofiwch y dathu arall yn y cyffinie dros yr hen sianel pitw ‘na.) Eisioes da ni wedi cael y cyfweliadau ar y newyddion a radio cymru, yr arddangosfa a ffilm ddogfen ar y gorwel. Ond ma hi’n anodd meddwl am unrhyw beth fedrith wella ar y pleser o weld Dave Datblygu yn iach ac yn edrych  llond ei groen yn mwynhau yr holl sylw. Wel i ffan rhonc o’r band mae na un peth all fod hyd yn oed yn well – cerddoriaeth newydd gan Datblygu ! A dyna sydd yn cael ei gynnig gan recordiau ankst musik gyda rhyddhau EP pedwar trac gwbl newydd gan David a Pat. Yr leinyp clasurol a’r sain clasur – cyfraniad ffantastic i flwyddyn arbennig iawn i’r band.
Mae un seshiwn recordio draw yn stiwdio Fflach yn yr Hydref yn ddigon i brofi fod  gwychder y caneuon emosiynol yn dal yna a syniadaeth David mor berthnasol ag erioed – ‘Potensial Cymru yw paradwys, so dwi’n aros adref ac yn gorffwys’ (Bywoliaeth).
Wir mae’r tracie i gyd yn cicio fel mul a ma hi’n amlwg ein bod ni wedi bod ar ein colled wrth i’r band ddisgyn yn dawel ers y nawdega. Am nawr mae’r ep yma yn ddigon …

This year has seen the band DATBLYGU celebrating 30 years since their formation and it gives ankstmusik records the greatest pride and pleasure to announce that they band have made a foray into the studio to record a brand new E.P. which will be released on seven inch vinyl. This four track E.P. is a further indicator of their ongoing renaissance and continued musical relevance. Four tracks that recall the classic Datblygu sound and line up of  Pat and David. The music, once again kicks like a mule, and the record makes it clear that the voice and words we’ve missed hearing for such a long time is finally back.

This limited edition release is available through the ankst webshop.
www.ankst.net
A1(i) BYWOLIAETH  (ii) WASTOD YN CERDDED YN UNIG
A2 (i) FFANTASI’R SAFONAU (ii) CAMPWS!
PATRICIA M. MORGAN : INSTRUMENTS
DAVID R.EDWARDS : VOX/INSTRUMENTS
RECORD LABEL : ANKST